ADREF
Ymunodd Bryan
“Yogi” Davies a Chlwb Rygbi’r Bala yn ystod tymor
1985-1986, gwnaeth argraff yn ei dymor cyntaf ble’i gwelwyd
yn derbyn y wobr “ Y CHWARAEWR MWYAF ADDAWOL”. Yn ystod
y 21 tymor a ddilynodd fe dderbyniodd bob anrhydedd y gallai unigolyn
gael gan y clwb megis “ AELOD Y FLWYDDYN”, “CHWARAEWR
Y FLWYDDYN” A’R CYFRANIAD MWYAF AT Y CLWB.
|
 |
Yn y cychwyn,
roedd Yogi yn ganolwr nerthol, cryf ei dacl, ond fe gytunodd chware prop
pan oedd y Tim Cyntaf yn brin o flaenwr yng nghanol tymor 1987-1988. Cymaint
oedd ei awch am y gem yn enwedig yr agwedd gorfforol fel yr arhosodd yn
y rheng flaen yn chwarae prop/ bachwr am 19 tymor.
|
Yn
ystod y tymhorau yma, datblygodd i fod yn wrthwynebydd ffyrnig oedd yn
hawlio parch ym mhob maes rygbi yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Roedd Yogi
yn rhoi ei oll ym mhob gem ac yn aml roedd ei wyrthwynebwyr yn dioddef
o’r herwydd! Roedd ganddo awch anhygoel am y gem ac roedd yn chwarae
gyda brwdfrydedd a chalon gan wrthod cymeryd cam yn ôl o’i
wirfodd. Roedd yn arwain y “pack”, yn ysgogi ei gyd chwaraewyr
ac yn ofalus o chwaraewyr ifanc.
|
Bu rygbi
yn dda iawn wrth Yogi am bron i chwarter canrif, ei agwedd ef oedd beth
bynnag a gafodd gan y gem roedd am ei roi yn ôl. Roedd yn rhedeg
adran iau y clwb bron ar ben ei hun ac mae’r plant 8,9,10 oed yn
ei addoli. Roedd yn torri’r cae, paentio’r pyst a’r
stafelloedd newid, hyfforddi’r blaenwyr a tim y merched, dyfarnu
gemau’r adran iau, chwilio am noddwyr, annog rhieni ac nid oedd
byth yn colli sesiwn ymarfer. Roedd ei ymroddiad yn anhygoel ac roedd
yn aelod holl bwysig o’r clwb i bob plentyn ac oedolyn.
|
Roedd yr
hen elyn, amser, yn prysur ddal i fyny a Yogi, ac yn 49 mlwydd oed
fe gyhoeddodd yn yr ystafell newid, cyn gem olaf y Tim Cyntaf, tymor
2006-2007 ei fod am wisgo y crys coch a glas am y tro olaf. Fe’i
gwnaed yn gapten am y diwrnod ac fe arweiniodd yr hogiau allan i’r
frwydr yn llawn balchder.
|
Yn gynnar
iawn yn ystod y gem chwalodd y sgrym cyntaf ond ar ôl i’w
gyd chwaraewyr godi roedd Yogi yn dal i orwedd ar lawr, yn methu symud.
Mae’r
ychydig eiliadau hynny wedi newid bywyd Yogi, ei wraig Sue a’i plant,
Ilan a Teleri am byth. Oherwydd yr anafiadau a ddioddefodd Yogi, y tebygolrwydd
yw y bydd Yogi wedi’w barlysu o’i wddf i lawr am weddill ei
ddyddiau.
Rydym ni yng Nghlwb Rygbi’r Bala mewn penbleth, sioc a phryder o
ganlyniad i ddigwyddiad mor drychinebus, ond mae’n sefyllfa ni yn
amherthnasol bellach i’w gymharu a’r sefyllfa erchyll y mae’r
teulu ifanc yma yn ei wynebu.
|