DIGWYDDIADAU
(The below links require Adobe Reader to open. To download
Adobe Reader for free, click here)
Lansio
Crys-T Rygbi gan Ellis ar gyfer Cronfa Apêl
Mae brand
dillad hamdden rygbi Ellis wedi cytuno i roi 100% o elw crys-t wedi ei
ysbrydoli gan Ray Gravell i Gronfa Apêl Bryan ‘Yogi’
Davies.
Mae’r
crys-t yn cynnwys y dyfynnod enwog gan arwr Cymru a’r Llewod ‘Get
your first tackle in early, even if it's late’ ac ar gael mewn lliw
gwyrdd neu glas tywyll.
Mae’n
costio £16.99 ac ar gael YMA
http://www.ellisrugby.com/index.php?cPath=69
Carchar
Beaumaris
19ed Gorffennaf
- Mi fydd Brian Jones yn hel pres tuag achos Yogi wrth aros noson yng
Ngharchar Beaumaris. I noddi pres at yr elusen cawch afel ar Brian ar
ebost:
brisey@btinternet.com
Three
Peaks
Please have
alook at the following link for information
http://www.web-d.biz/3peaks.htm
Cystadleuaeth
Golf i Trust PA
Cystadleuaeth
golf yn cael ei cynnal yn Gaerdydd ar Fehefin yr 14 ar gyfer elusen Trust
PA. Am fwy o fanylion cliciwch yma,
as am furflen gais cliciwch yma.
Mediaeval
Banquet
Yng Ngastell
Rhuthun am Mehefin 14 am mwy o fanylion cliciwch yma.
Marathon
Llundain
Mae Ian
Roberts (PC448), Swyddog yn Heddlu Gogledd Cymru wedi cofrestru i wneud
y marathon yn Llundain, sydd i’w chynnal Ebrill 13ain 2008. Mae
Ian yn garedig iawn wedi cytuno i redeg i roi cymorth I Apêl Bryan
Davies.

Gobeithiwn
y gwnaiff ffrindiau, chwaraewyr a chydweithwyr roi cefnogaeth i'r apêl
drwy noddi Ian ar y marathon.
Os gwelwch
yn dda a wnewch chi gefnogi’r apêl trwy roi cyfraniad neu
argraffu’r ffurflen noddi ai yrru I Gareth Jones/Chris Redmayne.
Neu os ydych chi yn weithiwr I Heddlu Gogledd Cymru fedrwch e-bostio Cyflogau
Cyffredinol yn nodi’r swm yr ydych eisiau ei noddi, bydd y swm yma
yn cael ei dynnu allan yn syth o’r cyflog. Atebwch erbyn Chwefror
4ydd ac fe gaiff ei fynnu o gyflog Fis Chwefror, bydd unrhyw ate bar ol
Chwefor 4ydd yn cael ei dynnu o gyflog Fis Mawrth. A wnewch chi gynnwys
eich rhif cyflogedig wrth ateb.
Cliciwch
yma i lawrlwytho ffurflen noddi
Taith
noddedig ogwmpas Llyn Tegid Bala- 10 milltir
Cafodd £2619
i godi at yr apel, diolch yn fawr i bawb nath gymryd rhan.

Cor
‘Syniad Da’
Nos Sul, Tachwedd
25ain 2007. Dilwyn Morgan yn cyflwyno Cor ‘Syniad Da’ (Cor
newydd o ardal Uwchaled) dan arweiniad Meinir Lynch gyda Alison Thomas
yn cyfeilio, yng Nghapel Jeriwsalem, Cerrigydrudion 8.y.h. Tal mynediad
£4 a £1 I blant Ysgol.
Taith
yr Arfordir
Taith feicio noddedig o Landudno i Gaerdydd, cyrraedd Medi 14 cyn gem
Rygbi Cymru ac Awstralia - poster

Beicio
noddedig o Lands End i John O'Groats
Bydd Dilwyn Morgan yn beicio taith hir o Lands End i John O'Groats. Fe
allwch ddal i fynnu ar broses unai drwy'r wefan yma neu y 'Daily Post'.
Mae'r daith yn bwriadu cychwyn ar Ddydd Sul Awst 26ain o Lands End, ac
fe gemerith ogwmpas 10 diwrnod iw gwblhau, a 2 dalwyn o Vaseline ir trip
1000 o filltiroedd. I lawrlwytho ffurfen noddi cliciwch yma.
Fedrwch
chi hefyd ddilyn anyuriaethau Dilwyn yn y blogiau canlynol:
http://www.dilwyn-lejog4yog.blogspot.com/
http://www.blogforyogi.northwalesblogs.co.uk/
Naid barasiwt noddedig

27 Gorffennaf
- Yn Whitchurch am 10am gan Lois Parry
Taith
gerdded noddedig o amgylch Llyn Alwen

24 Mehefin
- gan Adran Iau Clwb Rygbi'r Bala am 11.00am
Hoffai Glwb
Rygbi Ieuenctid Y Bala ddiolch yn fawr iawn i'r oddeutu 170 o blant ac
oedolion a fu'n cerdded 7 milltir o amgylch Llyn Alwen ar ddydd Sul 24
ain o Fehefin er mwyn codi arian at Gronfa Apel Bryan Davies. Diolch hefyd
am yr holl gymorth a gafwyd yn paratoi am y daith a'r cynorthwywyr ar
y diwrnod ac i'r holl fobol sydd wedi cyfrannu yn hael at yr apel drwy
noddi'r plant i gyd.
Cafwyd taith
eithriadol o dda ac yn sych ar yr rhan helaeth, a braf oedd gweld pawb
yn mwynhau'r profiad ac yn falch o allu rhoi ychydig o'u hamser i'w ffrind
Yogi.
Rydym yn
amcangyfirf fod oddeutu £4000 wedi ei gasglu at yr Apel.
Clwb
Pel Droed Bala Vs Dinas Bangor
4 Awst
- Clwb pel droed Bala- poster
Gogledd Cymru v Llanymddyfri (Enillwyr Cwpan Konica 2006)
11 Awst
- Yn y Bala. Mwy o fanylion i ddilyn.
Rally
Clwb Modur Bala
23 Mehefin
- Rally yn dechrau o Rhug, Cyfraniadau drwy bwced. Bron i £200 yn
cael ei godi ar y noson, hwn yn caelei ddyblu gan Clwb Modur Bala.
Y
Moniars
17 Awst-
Yn tafarn y Lion Cerrigydrudion. BBQ a canu.
Gyrfa
chwist Bala (Ella Williams)
1 Medi -
Sports Pavilion Bala
Digwyddiadau
Eraill
CLWB RYGBI
HARLECH :- Barbiciw yng Nghlwb Golff Harlech nos Wener 29 Mehefin

Ras gyfnewid noddedig o'r Bermo i'r Bala gan y chwaraewyr, ddydd Sadwrn
30 Mehefin
Ras falu ceir yn Harlech nos Fawrth 31 Gorffennaf am 6.00pm
Digwyddiadau
i'w trefnu:-
Arwerthiant wyn (H.P. Roberts)
Treialon cwn defaid ym mis Medi (D.H. Roberts)
Diolch i
Cymanfa Dosbarth Dinbych, Capel Saron wedi codi £500.00
|