PROFFIL
BRIAN
“YOGI” DAVIES
“Pwy
di’r boi newydd ma’?”
“
Duw rhyw foi o Cerrig, footballer di cael cerdyn coch neu wbath ac isio
cadw’n ffit tra mae o banned”
“
Neith o yn iawn fel winger i’r ail dîm os sticith o
hi”
Dyma
oedd cyflwyniad Brian i Glwb Rygbi’r Bala neu a ddylid deud
wrth edrych yn ôl cyflwyniad Clwb Rygbi’r Bala i “Yogi”?
Yn sicr fuodd y “footballer “o Cerrig ddim yn hir yn
dangos ei sgiliau gyda’r bel hirgron ai
ddawn naturiol i ddarllen y gêm a “ bod yn y lle iawn
ar yr amser iawn”.
|
|
Yn wir yn ei dymor cyntaf 1985 - 1986 enillodd dlws y “ Chwaraewr
mwyaf addawol” Fel deudodd yr hyfforddwr Bob Thomas “ I think
he’s here to stay”.Fues di erioed mor agos i dy le rhan Bob.
Roedd
gan y Bala ddau Brian yn ganolwyr yn ystod y blynyddoedd nesa, cyfnod
llwyddiannus iawn yn hanes y clwb. Brian “Yogi” Davies a Brian
Lloyd y gofaint o Lanfor. Ni ellir honni o bell ffordd mai dyma'r ddau
fwyaf gosgeiddig na chwim a wisgoedd y crysau 12 ac 13 ers i William Webb
Ellis afael yn y bel a rhedeg efo’i am y tro cyntaf yn 1876 ond
fel y tystiodd ambell i ganolwr roedd ceisio mynd drwy’r ddau yma
fel rhedeg i wal frics.Yr un oedd y gri pan oedd y ddau yn cyfuno i ymosod
( hyn yn ddibynnol ar faint o bêl oedd yn dod gan y maswr Robin
“ Penlan” Roberts. Clywid ambell i derm fel “ Brick
shithouses” ac “ after you”!!!!
Dyma
wrth gwrs amser y tripiau chwedlonol i’r “South”i gystadlu
yn y Brewers Cup. Roedd “Yogi” ynghanol y gyflafan bob amser
ar y maes neu yn y bar!! Ac yn wastad yn un o’r criw olaf
i’w throi hi am y gwely. Yn wir roedd ei allu i yfed Ginis yn chwedlonol
ac er nad yn meddu ar allu cerddorol ( yn bendant ni fyddai Simon Cowell
yn ffan) roedd wastad yn aelod blaengar o gôr meibion y côr
feistr G Rhys Jones a ddiddanodd gydau dehongliad chwaethus o Myfanwy
a “ The piano man” mewn clybiau rygbi o Raglan i Rigos ac
mewn un clwb i ddynion oedd yn hoffi ei gilydd yng Nghaerdydd !!!!! Ar
y cae neu yn y bar doedd Yogi ond yn gallu rhoi 100%.
|
Ymhen
amser daeth yn gyfyngyngor ar y clwb – dim Prop pen tyn. I ateb
yr alwad ac i ddangos ei ymrwymiad dyma gael gwirfoddolwr- Brian “
Yogi” Davies.
Er nad yn meddu ar gorff a oedd yn naturiol i brop pen rhydd ( fel arfer
maen nhw’n dew a hyll ac eithaf “static”) roedd “
Yogi” yn meddu ar gryfder mwy na’r cyffredin ac yn bwysicach-
calon fel arth.
Oherwydd ei fod yn meddu ar gorff oedd yn cael ei ystyried yn fychan o
gorff roedd rhaid iddo ddysgu ei grefft yn gyflym iawn er mwyn goroesi
ym mrawdoliaeth dywyll y rheng flaen. Treuliwyd oriau lawer ar y peiriant
sgrymio yn ymarfer gan wthio Land Rovers a thractorau o gwmpas y maes
ymarfer. Eto doedd “Yogi” ond yn gallu rhoi 100% mewn glaw
hindda rhew neu eira ni fethai byth ymarfer ar unrhyw gyfrif a gosododd
esiampl amhrisiadwy i nifer o rai llai ymroddgar.
Y mae sylwadau aelodau rheng flaen clybiau eraill yn dweud cyfrolau am
yr amser pan oedd 5 blaen y Bala yn rhan o chwedloniaeth rygbi’r
gogledd.
|
“
Roedd y diawl yn rhoi mhen i yn y mwd bob tro”
“Iesu roedd ganddo binsiad fel cranc”
“Ouch”
Un
o bleserau mawr Yogi oedd gweld y gwrthwynebwyr yn cymryd llinell yn lle
sgrym neu orfod newid props am nad oeddynt yn gallu byw efor “ footballer
o Cerrig”
Roedd yn bleser gweld y wen ar ei wyneb fel cath wryw ar nos Sadwrn pan
oedd yn codi o’r sgrym.
Fel roedd y blynyddoedd yn pasio roedd chwaraewyr yn mynd a dod ond er
iddo ei hun fentro i fyd y fodrwy gyda Sue ( roedd angen plismones i’w
gadw mewn trefn) a dod yn dad I Ilan a Teleri roedd Yogi rhywsut yn gallu
cael amser i roi 100% iddynt hwy yn ogystal ar 100% arferol ir Clwb.
Tros
y blynyddoedd diwethaf datblygodd y clwb i gynnal timau dan 9 i dan 19
ac roedd ymrwymiad “Yogi” i hyfforddi ac i rannu ei brofiad
ai weledigaeth a’r bobol ifanc yma yn amhrisiadwy ac yn rhoi esiampl
berffaith o “role model” iddynt ac i ddysgu sgiliau a hunan
ddisgyblaeth iddynt.
Mae
rhaid bod ganddo 36 awr ymhob diwrnod oherwydd roedd yn hyfforddi, ymarfer
ei hun, chwarae ar ddydd Sadwrn, goruchwylio gemau'r plant ar y Sul, torri
gwair, marcio’r cae, tad a gwr ac mewn gwaith llawn amser yn Ifor
Williams.
Yn
y blynyddoedd diwethaf daeth i’r adwy eto gan symud o brop i chwarae
bachwr eto gyda’r un ymroddiad ar un egni.
Nid
hawdd yw rhoi mewn geiriau gyfraniad y “footballer o Cerrig”
i Glwb Rygbi’r Bala na chwaith ein dymuniad ni fel cyd aelodau
a chwaraewyr a ffrindiau i’w weld yn ôl yn ein mysg.
Efallai mai un o aelodau dy dim dan 9 di “Yogi” sydd
yn crisialu teimladau pawb ar hyn o bryd
“Brysiwch
wella yncl Yogi - chi di coach gora da ni erioed wedi gael - da
chi’n ffrind i ni.
O
enau plant bychain!!!!!!
|
|
|